Trystan Lewis, B.A., M.Mus., Arweinydd
Mae Trystan wedi ymwneud â chorau y rhan fwyaf o'i oes; arweiniodd Gôr Aelwyd Pantycelyn am ddwy flynedd gan ennill dwy flynedd ar y tro gyda Chôr Cymysg a Meibion yr Aelwyd hwnnw. Penodwyd ef yn arweinydd Côr Maelgwn wyth mlynedd yn ôl ac o dan ei faton, maent wedi ennill Cystadleuaeth y Sealink, Y Genedlaethol ddwywaith (2005 a 2009) a buont yn rownd derfynol Cystadleuaeth y BBC. Bu'n organydd yn y Tabernacl, Aberystwyth tra'n fyfyriwr ac mae'n canu'r organ yn achlysurol yn St John's Llandudno ac yn gyson ym Methel a Pheniel, Deganwy. Mae wedi arwain bron i ddau gant o Gymanfaoedd Canu gan gynnwys Canada a Chymanfa Gogledd America yn ogystal â nifer o rai ar y teledu a'r radio. Mae galw arno fel unawdydd bâs-bariton, bu'n canu gyda Chymdeithas Gorawl Llanelli llynedd a gwahoddwyd ef yno eto eleni. Mae'n unawdydd cyson yng nghyngherddau St John's Llandudno ac enillodd yr unawd Hen Ganiadau yn y Bala 2009. Mae'n feirniad cenedlaethol ac wedi beirniadu mewn bron i ddau gant o eisteddfodau. Enillodd radd M.Mus mewn Astudiaeth Llais a Harmoni a Gwrthbwynt. Ef a sefydlodd y côr hwn i berfformio cyfanweithiau gyda cherddorfa. Mae ef a'i wraig Llinos, sydd hefyd yn y côr, yn cadw Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno a siop ar-lein s'yn arbennigo mewn anrhegion Cymraeg, anrhegion i'r ty, cardiau a llyfrau Cymraeg. |
Trystan Lewis, B.A., M.Mus., Conductor
Trystan Lewis has been involved with music and particularly choirs, for most of his life. He conducted Pantycelyn choir to two national wins whilst an undergraduate at the University of Wales at Aberystwyth. He was appointed the Musical Director of the Maelgwn Male Voice Choir at 22 years of age and they have won the Sealink competition, the National Eisteddfod twice and were finalists in the BBC Choir Competition. Again, whilst at Aberystwyth, he was organist of the Tabernacle, and is an organist at St John's Llandudno and Bethel and Peniel, Deganwy. He has conducted over 200 Cymanfaoedd Canu, Singing festivals including Canada and the North American Festival as well as on television and radio. He is a busy bass-baritone, he sang with the Llanelli Choral Society last year and has been invited again this year. He also is a regular soloist at the St John's concerts in Llandudno and he won the Open Welsh solo at the National Eisteddfod in Bala, 2009. He is an adjudicator as well being Musical Director of Côr Cymysg Dyffryn Conwy which he founded and has conducted in performances with the North Wales Philharmonia Orchestra. He attained an M.Mus degree from Liverpool University in Voice Technique and Harmony and Counterpoint. Trystan and his wife Llinos, who's also in the choir, run Lewis Bookshop in Llandudno and have an online shop specialising in Welsh gifts, interiors, Welsh cards and books. |